Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
19 Mai 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod aelodau o’r cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cynnig i benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes
NNDM7687 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol a Rheol Sefydlog 11.3:
Yn penodi'r Llywydd, Lesley Griffiths (Llafur), Darren Millar (y Ceidwadwyr Cymreig) a Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Busnes.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i'r eitemau canlynol gael eu cymryd yn y Cyfarfod Llawn nesaf:
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Penodiadau i'r Cabinet
(30 munud)
4 Datganiad gan y Prif Weinidog: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
(45 munud)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 26 Mai 2021